CERDDWN - Exceptional New Music for Orchestra

Ella Fradgley

Sound and Music news
Share this page
FacebookTwitterEmailLinkedInShare
Image credit:
James Cook
Deadline:
Share this page
FacebookTwitterEmailLinkedInShare

ENGLISH

WHAT IS CERDDWN?

CERDDWN is a radically different developmental opportunity for composers. We want to create a world-leading hub for musical experimentation and innovation in mid-Wales. Working with community orchestra Aberystwyth Philomusica and leading professional orchestra Sinfonia Cymru, composers and mentoring performers will create visionary new works for orchestra. Our goal is to break away from standard educational and practical models relating to writing for the orchestra, give space to experiment with radically new and risky ideas, and to create ambitious and exceptional new music – a starting point for a new legacy of orchestral music in Wales. To kickstart this, we’ve commissioned 4 composers to write new works, we’ll also be supporting 4 mentee composers in the creation of ambitious new compositions too.

FOUR NEW COMMISSIONS

CERDDWN is proud to commission new compositions from Welsh composers David John Roche, Nathan James Dearden, Mared Emlyn, and Jeferson Lobo. Each composer will write a new work for the musicians of Sinfonia Cymru and Aberystwyth Philomusica. These CERDDWN Commissions will form the backbone of this ambitious new project.

MENTORSHIP OPPORTUNITIES

Our mentorship spaces are open to everyone, from those who haven’t experienced formal musical education, to those with zero experience in writing for orchestra, to practically skilled, road-tested symphonists. Do you want to write something wildly and radically different? Are you from a less traditional musical background? Do current learning models prevent you from testing strange, difficult musical ideas? Do you need hands-on, practical space with an orchestra to experiment, learn the basics, or take significant risks? If so, then CERDDWN is the perfect opportunity for you – this is a place for ambitious, risky, cutting-edge composers. There are no formal educational requirements, there are no genre restrictions – we want to hear your voice.

WHAT WILL SELECTED MENTEE COMPOSERS BE DOING?

4 selected mentee composers (who will each receive £500) will be asked to write for the musicians of Aberystwyth Philomusica and Sinfonia Cymru. Compositions can be for an ensemble of any size, but the performers must be drawn from the pool of players working with Aberystwyth Philomusica and Sinfonia Cymru. Composers will be able to work closely and repeatedly with both orchestras and the program will be tailored specifically to each mentee’s educational needs and requirements. We value ambition, risk taking, and practically minded music making.

Each mentee composer will also work closely with 1 of 4 mentors (David John Roche, Nathan James Dearden, Mared Emlyn, and Jeferson Lobo) in the creation of their work. Support, ambition, and compositional experimentation are at the heart of this project.

APPLY

Deadline for submissions: Monday August 20th 2023 (11:59pm London Time)

Submission requirements:

  1. 1-3 examples of music.
  2. 250 words or up to 3 minutes of audio or video briefly describing who you are and why you would like to be part of this project.
  3. An e-mail address or phone number so we can contact you.

 Eligibility requirements

  1. There are 4 available mentee spaces. 1 space for UK-based and international participants, 3 spaces for Welsh and/or Wales-based practitioners.
  2. There are no other formal requirements, there are no genre restrictions. We support Sound and Music’s Fair Access Principles.

Applications will be review by a 3-person panel consisting of David John Roche, Iwan Davies, and Simmy Singh. Shortlisted candidates will be invited to have a small online chat, feedback will be provided to all applicants.

SUBMIT

Submit your application here or e-mail it to cerddwn@gmail.com or d_roche@hotmail.co.uk.

Applications should be in Welsh or English. If there is anything here that would prevent you from applying, then please contact David John Roche at cerddwn@gmail.com or d_roche@hotmail.co.uk – we are also happy to discuss the project via telephone. We may be able to accept late applications, but please contact us in advance. We want to hear from you, we want this project to be as open and accessible as possible.

This project is generously funded by Tŷ Cerdd, the Arts Council of Wales, and Aberystwyth University.

CYMRAEG

BETH YW CERDDWN?

Mae CERDDWN yn gyfle hollol wahanol i gyfansoddwyr gael magu eu crefft. Ein nod yw creu canolbwynt ar gyfer arborofi cerddorol yng nghanolbarth Cymru sy’n flaenllaw’n fyd eang. Trwy gydweithio gyda cherddorfa gymunedol Aberystwyth Philomusica a’r gerddorfa broffesiynol blaenllaw Sinfonia Cymru, bydd cyfansoddwyr a pherfformwyr yn creu cyfansoddiadau newydd a gweledigaethol i gerddorfeydd. Ein bwriad yw dianc rhag modelau ymarferol ac addysgol arferol, creu cyfle i arbrofi gyda syniadau newydd a mentrus, a chreu cerddoriaeth newydd uchelgeisiol ac eithriadol- man cychwyn ar gyfer traddodiad newydd o gerddoriaeth gerddorfaol yng Nghymru. I wthio’r cwch i’r dŵr, rydym wedi comisiynu 4 cyfansoddwr i greu gweithiau newydd. Byddwn hefyd yn cefnogi 4 o gyfansoddwyr i gael eu mentora trwy’r broses o greu cyfansoddiadau newydd ac uchelgeisiol.

PEDWAR COMISIWN NEWYDD

Mae CERDDWN yn falch o gomisiynu cyfansoddiadau newydd gan y cyfansoddwyr Cymreig David John Roche, Nathan James Dearden, Mared Emlyn, a Jeferson Lobo. Bydd pob cyfansoddwr yn creu gwaith newydd ar gyfer cerddorion Sinfonia Cymru ac Aberystwyth Philomusica, a’r cyfansoddiadau yma fydd asgwrn cefn y prosiect uchelgeisiol hwn.

CYFLEOEDD MENTORIAETH

Mae ein cyfleoedd mentoriaeth yn agored i bawb, o’r sawl sydd heb dderbyn addysg gerddorol ffurfiol neu heb brofiad o gyfansoddi ar gyfer cerddorfa, i symffonyddion sy’n ymarferol alluog a phrofiadol. Hoffech gyfansoddi rhywbeth hollol wahanol? Ydych chi o gefndir cerddorol llai traddodiadol? A yw’r modelau dysgu presennol yn eich atal rhag arbrofi gyda syniadau cerddorol amgen ac anodd? Hoffech y cyfle i weithio’n ymarferol gyda cherddorfa i arbrofi, dysgu’r pethau sylfaenol, neu fentro? Os felly, CERDDWN yw’r cyfle perffaith i chi – dyma’r lle i gyfansoddwyr uchelgeisiol, mentrus ac arloesol. Does dim gofynion addysgol ffurfiol nac ychwaith gyfyngiadau ar arddull y gerddoriaeth – rydym am glywed eich gweledigaeth.

BETH FYDD Y CYFANSODDWYR SY’N CAEL EU MENTORA YN EI WNEUD?

Gofynnir i 4 cyfansoddwr (a fydd yn derbyn £500 yr un) i gyfansoddi ar gyfer cerddorion Aberystwyth Philomusica a Sinfonia Cymru. Gellir cyfansoddi ar gyfer ensemble o unrhyw faint, ond rhaid defnyddio perfformwyr o’r gronfa o gerddorion sy’n gweithio gydag Aberystwyth Philomusica a Sinfonia Cymru. Caiff y cyfansoddwyr gyfle i weithio’n agos ac yn gyson gyda’r ddwy gerddorfa a bydd y rhaglen yn cael ei theilwra’n benodol at ofynion ac anghenion addysgol pob cyfansoddwr. Pwysleisiwn bwysigrwydd uchelgais, mentro, a chreu cerddoriaeth mewn modd ymarferol.

Bydd pob cyfansoddwr sy’n cael ei fentora hefyd yn cydweithio’n agos gydag 1 o’r 4 mentor (David John Roche, Nathan James Dearden, Mared Emlyn, a Jeferson Lobo) wrth gyfansoddi. Cefnogaeth, uchelgais ac arbrofi’n gerddorol sydd wrth wraidd y prosiect hwn.

GWNEUD CAIS

Dyddiad cau: Dydd Llun 4 Awst 2023 (11:59pm Amser Llundain)

Gofynion:

  1. 1-3 enghraifft o gerddoriaeth.
  2. 250 gair neu hyd at 3 munud o sain neu fideo yn disgrifio’n gryno pwy ydych chi a pham yr hoffech chi fod yn rhan o’r prosiect.
  3. Cyfeiriad e-bost neu rif ffôn er mwyn i ni allu cysylltu â chi.

Gofynion Cymhwystra

  1. Cynigir y cyfle i 4 cyfansoddwr. 1 ar gyfer cyfansoddwr yn y DU/ rhyngwladol, 3 lle ar gyfer cyfansoddwyr Cymreig a/neu sydd yn byw yng Nghymru.
  2. Nid oes unrhyw ofynion ffurfiol eraill ac nid oes cyfyngiadau ar arddull y gerddoriaeth. Rydym yn cefnogi Egwyddorion Mynediad Teg gan Sound and Music.

Bydd y ceisiadau’n cael eu hadolygu gan banel o dri sef  David John Roche, Iwan Davies, a Simmy Singh. Bydd pob ymgeisydd yn derbyn adborth a bydd ymgeiswyr sy’n cyrraedd y rhestr fer yn cael eu gwahodd i gael sgwrs ar-lein.

CYFLWYNO CAIS

Cyflwynwch eich cais yma neu anfonwch e-bost at cerddwn@gmail.com neu d_roche@hotmail.co.uk.

Dylid gwneud cais drwy’r Gymraeg neu’r Saesneg. Os oes unrhyw beth yn eich atal rhag gwneud cais, cysylltwch â David John Roche ar cerddwn@gmail.com neu d_roche@hotmail.co.uk – rydym hefyd yn hapus i drafod y prosiect dros y ffôn. Mae’n bosib y gallwn dderbyn ceisiadau hwyr, ond cysylltwch â ni ymlaen llaw. Rydym yn awyddus i glywed gennych ac rydym am i’r prosiect hwn fod mor agored a hygyrch â phosibl.

Ariennir y prosiect drwy haelioni Tŷ Cerdd, Cyngor Celfyddydau Cymru, a Phrifysgol Aberystwyth.

Share this page
FacebookTwitterEmailLinkedInShare
Share this page
FacebookTwitterEmailLinkedInShare